Ifanc
Croeso i dudalen Ieuenctid gwefan ASH Cymru.
Gobeithio y bydd yr ychydig baragraffau nesaf yn rhoi cipolwg i chi ar y gwaith rydyn ni a phobl ifanc yn ei wneud ar hyn o bryd ledled Cymru gyda’r Prosiect Gwirfoddoli Ieuenctid.
Mae ASH Cymru (Action on Smoking and Health) yn gweithio ledled Cymru i fynd i’r afael â’r defnydd o dybaco a nod penodol y rhaglen hon yw darparu gwybodaeth gywir sydd wedi’i diweddaru i bobl ifanc am dybaco. Trwy’r rhaglen gwirfoddoli rydyn ni’n gobeithio y byddwch yn cael y sgiliau y mae eu hangen i gyflenwi gwybodaeth i gyfoedion am ddefnyddio tybaco a helpu i roi cyngor byr i bobl ifanc sydd eisiau mynd ati i Roi’r Gorau Iddi! Mae’r pynciau rydyn ni’n sôn amdanynt yn cynnwys:-
- Yr effeithiau o ran iechyd mae defnyddio tybaco yn eu cael ar gyrff pobl ifanc
- Goblygiadau ariannol defnyddio tybaco i bobl ifanc
- Dysgu beth yn union sy’n mynd i mewn i sigarét (mae yna 4,000 o gemegion i ddewis ohonynt)
- Marchnata tybaco i bobl ifanc
Mae’r holl hyfforddiant a digwyddiadau’n ymarferol sy’n golygu eich bod chi’n cael cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau gyda chyd-aelodau ifanc. Cewch eich croesawu gan yr holl aelodau cyfoed presennol, eich gwahodd i ymuno â thudalen ASH Cymru ar Facebook a byddwn yn cysylltu â chi’n rheolaidd ynglyn â’r hyn sy’n digwydd. Hefyd cewch y dewis o eistedd ar y Pwyllgor Ymgynghorol Ieuenctid i helpu i wneud penderfyniadau ynglyn â datblygu’r prosiect.
Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar faterion yn ymwneud â thybaco a/neu iechyd, dim ond y brwdfrydedd a’r awydd i ddysgu am y cynnyrch caethiwus iawn hwn. Fyddwn ni ddim yn gwahaniaethu yn eich erbyn os ydych chi’n ysmygu neu os oeddech chi’n arfer ysmygu; byddwn ni’n cynnig cymorth a chyngor yn ystod y prosiect i’ch helpu i geisio Rhoi’r Gorau Iddi.
Un peth olaf, sef y bydd pob person ifanc 16-24 oed yn cael ei wahodd i ymuno â chynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Bydd hyn yn rhoi cydnabyddiaeth i chi am eich ymrwymiad parhaus i’ch gweithgareddau gwirfoddol, gan roi i chi ymdeimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth pan gewch eich tystysgrif 50 awr a 100 awr ac yna’ch Dyfarniad Rhagoriaeth ar ôl gwneud 200 awr! Dyw’r dyfarniad ddim yn costio dim i chi; a dweud y gwir, byddwn yn ad-dalu treuliau rhesymol yr ewch iddynt megis teithio a bwyd.
I gael mwy o wybodaeth am gymryd rhan neu fwy o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â’r -
Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr Ieuenctid
ASH Cymru,
2il Lawr, 8 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd,
CF10 3BG
Ffôn: 029 2064 1101
Ebost:: enquiries@ashwales.co.uk