Ash Wales

Tuag at Gymru Ddi-Dybaco

Skip to main content

Site navigation

Eich Cymuned CHI yw hon!

Hoffai ASH Cymru estyn cyfle i chi ddweud wrthym beth sy'n digwydd yn eich cymdogaeth chi. Efallai bod gennych newyddion am ddatblygiadau yn eich ardal, neu'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau codi arian neu'r gwaharddiad ar ysmygu. Efallai bod gennych stori am bobl yn eich cymuned sy'n brwydro yn erbyn drwg effeithiau tybaco. Beth bynnag yw natur eich cyfraniad, dyma'r lle i'w bostio!  Defnyddiwch yr adran isod i gyflwyno'ch stori i ASH Cymru.

Bydd eich storïau yn cael eu darllen gan aelod o dîm ASH Cymru, a'u gosod ar y wefan ymhen ychydig ddyddiau, fel rhan o eitem addas. Dim ond eich enw cyntaf a ddefnyddir wrth gyhoeddi eich stori neu'ch cyngor.

Dyma'r adran ar gyfer rhannu eich syniadau a'ch profiadau er mwyn cynorthwyo eraill i roi'r gorau i ysmygu. Cadwn yr hawl i gyhoeddi dim ond y storïau hynny sy'n berthnasol i'r amcan honno.

Nid yw'r farn neu'r syniadau a fynegir yn y storïau a'r cynghorion yn yr adran hon o reidrwydd yn adlewyrchu barn neu syniadau ASH Cymru.

Cadwn yr hawl i ddefnyddio'ch storïau a'ch cynghorion o fewn y wefan hon a chyhoeddiadau eraill heb ofyn am ganiatâd na gwneud tâl. Ym mhob achos, byddwn yn parchu preifatrwydd ac yn defnyddio eich enw cyntaf yn unig wrth gyfeirio atoch.

Croesawn eich syniadau, eich awgrymiadau a'ch technegau. Os nad ydych chi'n fodlon i ni ddefnyddio'r syniadau hyn heb ofyn caniatâd na gwneud tâl, dylech eu hanfon trwy'r ffurflen Cysylltu â ni.

Yn yr Adran Hon

Llinell Gymorth i Ysmygwyr:
0800 169 0169
Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru:
0800 085 2219

A oeddech chi'n gwybod?

Bod mwy na 4000 o gemegau mewn mwg tybaco.

Site information

© 2007 ASH Cymru | Dyluniwyd gan L Griffiths | Developed by Core

Map o'r Wefan |  Telerau |  Preifatrwydd |  Credits

Action on Smoking and Health (ASH) Wales, a registered charity (Charity Number:1120834) and Company Limited by Guarantee (6030302)