Pwy yw Pwy yn ASH Cymru
Yr Athro y Barwnes Finlay
Yr Athro y Barwnes Finlay o Landaf yw Llywydd ASH. Athro Meddygaeth Liniarol yw Ilora Finlay ac mae'n gweithio gyda Gofal Canser Marie Curie ers 1987. Bu'n Is-Ddeon yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd rhwng Awst 2000 a Hydref 2005 ac fe'i penodwyd yn ddiweddar yn Llywydd y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol.
Ers ei dyrchafu'n Farwnes yn 2001, bu'n weithgar mewn trafodaethau ar faterion iechyd, yn enwedig ym maes Iechyd a Thybaco. Mae'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg ac, yn ddiweddar, o'r Pwyllgor Dethol ar Ddeddf Marwolaethau Cymorthedig y Terfynol Wael. Mae hefyd yn Llywydd Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig ac MS Cymru ac yn Noddwraig Hosbis Shalom, Cymru. Hi oedd Cymraes y Flwyddyn 1996-7 a bu'n Athro Ymweliadol ym Mhrifysgol Gröningen (Cadair Johanna Bijtel) a Phrifysgol Melbourne.
Cyhoeddodd a darlithiodd yn eang ar ofal lliniarol ac ymchwiliodd i wahanol agweddau ar ofal lliniarol canser. Sefydlodd gyrsiau byd-enwog Diploma/MSc mewn meddygaeth liniarol yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru lle graddiodd dros 900 o glinigwyr o bob rhan o'r byd.
Yr Athro Steve Tomlinson
Yr Athro Steve Tomlinson CBE MD FRCP FMedSci yw Cadeirydd Ash. Bu'n Is-Ganghellor Ysgol Feddygaeth Prifysgol Cymru (UWCM), yn Brofost Ysgol Feddygaeth, Bioleg, Gwyddorau Bywyd ac Iechyd Cymru, ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd. Mae bellach yn Brofost Prifysgol Caerdydd.
Mae'r Athro Tomlinson yn Feddyg Mygedol Ymgynghorol mewn Diabetes yn Ymddiriedolaeth NHS Caerdydd a'r Fro. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil, mae'n rhestru arwyddo rhyng-gellol a threfnu a darparu gwasanaethau i bobl sydd â diabetes. Y mae hefyd, ar hyn o bryd, yn arwain cynlluniau yng Nghaerdydd a'r Fro yn hanes meddygaeth, ffordd-o-fyw ac iechyd, y celfyddydau, y dyniaethau, a gwyddorau iechyd a biofeddygaeth.
Ms Tanya Buchanan
Ms Tanya Buchanan BA(Hons), BSc, MBA, DipPM yw Cyfarwyddwr ASH. Mae gan Tanya brofiad helaeth o reoli gwasanaethau iechyd; mae'n gweithio ym meysydd addysg a gofal iechyd ers pedair blynedd ar ddeg..
Mrs Sue Evans
Mrs Sue Evans yw Rheolwr y Swyddfa. Mae hi'n Gwnselwraig Roi'r Gorau i Ysmygu brofiadol. Fel rhan o'i gwaith i ASH, cyfrannodd tuag at sefydlu a gweinyddu'r Llinell Gymorth i Ysmygwyr yng Nghymru.
Ms Dal Verdi
Ms Dal Verdi BA, MSc yw Swyddog Digwyddiadau a Datblygu ASH. Daw ag arbenigedd mewn marchnata a hyrwyddo i'w gwaith ar brosiectau ASH Cymru ym maes cyfathrebu a hybu iechyd
Mr John Griffiths
Mae gan Mr John Griffiths B.Ed (Hons) M.Sc. FRSH fwy nag ugain mlynedd o brofiad o ddatblygu a gweithredu rhaglenni hyrwyddo iechyd ac y mae'n arbenigwr rhyngwladol blaenllaw ym meysydd rheoli tybaco a hybu iechyd yn y gweithle (WHP).
Bu John yn gadeirydd Pwyllgor Diwrnod Dim Ysmygu y Deyrnas Gyfunol a chyfrannodd tuag at sefydlu nifer o ymgyrchoedd rhwystro ac atal yn ogystal â rheoli amryw o gynlluniau 'Gad E Mi Gei Di' ('Quit and Win') a drefnwyd trwy'r cyfryngau torfol. Mae'n hyfforddwr profiadol sydd wedi gweithio mewn sawl gwlad yn Ewrop, yn ddarlledwr teledu a radio, yn ddarlithydd gwadd mewn nifer o brifysgolion ac yn brif siaradwr mewn cyfarfodydd a chynadleddau
Dr Ian Campbell
Mae Dr Ian Campbell MD, FRCP (Caeredin a Llundain) yn feddyg y frest ers 29 mlynedd ac yn cyfrannu i waith ASH ers 28 mlynedd. Ef a sefydlodd y swydd Gwnselwr Rhoi'r Gorau i Ysmygu gyntaf mewn ysbyty NHS yng Nghymru ac y mae'n gryf o blaid gwahardd ysmygu, ymhlith mesurau eraill ar gyfer rhwystro a rhoi'r gorau i ysmygu.
Mr Alan French
Deintydd wedi ymddeol yw Mr Alan French BDS (Lond), LDSRCS (Eng), DDPHRS (Eng). Bu gynt yn swyddog uwch ym maes iechyd deintyddol cyhoeddus yn Ne a Gorllewin Cymru. Mae'n frwd iawn o blaid cenhadu ymhlith y bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn ein cymdeithas ynglŷn â pheryglon defnyddio tybaco. Mae'n aelod o Bwyllgor Ash ers 10 mlynedd.
Mrs Caroline Watts
Mae Mrs Caroline Watts MSc Hlth & Prom yn gweithio ym maes Hybu Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus ers y 1980au. Ar y dechrau, bu'n ymwneud â gwaith rhoi'r gorau, ac roedd ymhlith y cwnselwyr RHOI'R GORAU/QUIT cyntaf. Bu hefyd yn ysgrifennu ac yn cyflwyno ar lefel Ewropeaidd ac i Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Yn sgil diddordeb arbennig Caroline mewn iechyd cyhoeddus a gofal cynradd, cafodd ei secondio am dair blynedd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, cyn dychwelyd i Dîm Iechyd Cyhoeddus fel rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.
Mrs Lynette Pothecary
Mrs Lynette Pothecary yn gweithio fel Swyddog Hybu Iechyd o fewn Adran Iechyd Amgylcheddol Cyngor Dinas a Dir Abertawe. Mae wedi gweithio'n helaeth ym maes rhoi'r gorau i ysmygu, yn enwedig gyda phobl ifanc, a chyfrannodd tuag at sefydlu llawer o brosiectau i bobl ifanc yn ardal Abertawe. Mae Lynette hefyd yn gweithio i Wasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu fel Cwnselwraig Roi'r Gorau i Ysmygu.
Mr Ian Scale
Mae Mr Ian Scale LWCMD, CertEd, MPH yn Brif Swyddog Iechyd y Cyhoedd yn Sir Benfro gyda Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Mae’n gweithio ar faterion yn ymwneud ag ysmygu ers 1988, yn gyntaf gyda rhaglen Curiad Calon Cymru a Hybu Iechyd Cymru. Mae’n arwain ar reoli tybaco’n lleol fel rhan o’i waith ac ef yw cydgysylltydd lleol rhaglenni megis Diwrnod Dim Smygu, Bygiau Baco a Fforwm Rheoli Tybaco’r sir
Mrs Sonja Edwards
Mrs Sonja Edwards oedd y Gwnselwriag Roi'r Gorau i Ysmygu gyntaf i weithio mewn ysbyty yng Nghymru: gwaith y mae'n parhau i'w wneud yn hynod lwyddiannus yn Ysbyty Llandochau. Mae Sonja'n siarad yn aml mewn cynadleddau a sesiynau hyfforddi i weithwyr proffesiynol ym maes rhoi'r gorau i ysmygu.
Mrs Helen Poole
Mae Mrs Helen Poole BA (Hons), Post.Grad.Dip hefyd yn Gwnselwraig Roi'r Gorau i Ysmygu, sy'n gweithio yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, lle mae'n cynghori cleifion mewnol ynglŷn â'u harferion ysmygu ac yn cydlynu eu gofal ar ôl iddynt ymadael â'r ysbyty.
