Dolennau Defnyddiol
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn arwain y frwydr yn erbyn afiechyd y galon a chylchrediad gwaed, sy'n lladd mwy o bobl yn y Deyrnas Gyfunol na'r un afiechyd arall. Mae'r elusen yn un o'r prif noddwyr ac awdurdodau ym maes ymchwil gardiofasgwlar. Mae'n cyflawni gwaith pwysig hefyd o ran ariannu addysg i'r cyhoedd a hefyd i weithwyr iechyd proffesiynol trwy ddarparu cyfarpar cardiaidd a all achub bywydau, a thrwy gefnogi triniaeth adfer a gofal cleifion.
Blwch Post 50
Caerdydd
CF11 1DX
Ffôn: 02920 382368
e-bost: wales@bhf.org.uk
Cancer Research UK yw'r sefydliad annibynnol pwysicaf yn y byd ym maes ymchwil canser. Er mai ymchwil bio-feddygol yw'r pwysicaf o'i weithgareddau, y mae hefyd yn cynnal rhaglen addysg a rheoli mewn perthnas â thybaco.
10 Cambridge Terrace
Llundain
NW1 4JL
Ffôn: 020 7009 8689
Diabetes UK Cymru Mae tua 118,000 o bobl Cymru'n gwybod bod clefyd siwgr arnyn nhw. Fe all fod degau o filoedd o bobl eraill yn byw gyda'r cyflwr heb yn wybod iddynt. Agorodd Diabetes UK ei swyddfa genedlaethol yng Nghymru yn 1996. Mae'n anelu at ddarparu gwasanaeth dwyieithog cynhwysfawr i bawb sydd â diddordeb mewn diabetes, er mwyn gwneud diabetes yn flaenoriaeth wleidyddol ac i lobïo am wella safon gwasanaethau diabetes yng Nghymru.
Diabetes UK Cymru
Argyle House
Castlebridge
Heol Ddwyreiniol y Bontfaen
Caerdydd
CF11 9AB
Ffôn: 029 2066 8276
Ffacs: 029 2066 8329
e-bost: wales@diabetes.org.uk
Mae'r Adran Ddeintyddol Ôl-reddedig (rhan o Ysgol Astudiaethau Meddygol a Deintyddol Ôl-reddedig Prifysgol Caerdydd) yn cefnogi gweithwyr deintyddol sy'n darparu hyfforddiant mewn deintyddfeydd a chlinigau ar gyfer cynghori cleifion ynglŷn â rhoi'r gorau i ysmygu. Mae deintyddion a'u timau mewn sefyllfa ardderchog i gynnig y cyngor hwn i'w cleifion.
Ysgol ac Ysbyty Deintyddol
Academic Avenue
Heath Park
Caerdydd
CF14 4XY
Ffôn: 02920 744314
e-bost: thomashs@cardiff.ac.uk
Mae gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y gwaharddiad ar ysmygu yng Nghymru, am sut y bydd yn effeithio arnoch chi, ac am y busnesau a'r sêr sydd eisoes wedi codi'u lleisiau dros Gymru dd-fwg. Does dim achos ataliadwy arall sy'n peri cymaint o salwch, anabledd a marwolaethau cynamserol yng Nghynru. Amcangyfrifir bod oddeutu 6,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o ganlyniad i ysmygu. Mae'r wefan hon yn cyflwyno strategaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynorthwyo ysmygwyr i roi'r gorau iddi, ac annog y rhai nad ydynt yn ysmygu i beidio â dechrau.
Wasted! Y gwasanaeth Safonau Masnach sy'n gyfrifol am reoli tybaco trwy ddeddfwriaeth, gan gynnwys rheoli hysbysebion, rhoi rhybuddion ar becynnau, lleoli peiriannau gwerthu sigaréts, a rhwystro gwerthu sigaréts i bobl dan oed. Yn ogystal â gweinyddu'r gyfraith, mae'r gwasanaeth yn defnyddio addysg ataliol ymysg siopwyr a phobl ifanc er mwyn mynd i'r afael â darparu tybaco yn anghyfreithlon. Enghraifft o hyn yw'r cynllun a ddatblygwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i godi ymwybyddiaeth o effeithiau cyfreithiol, chymdeithasol a chorfforol camddefnyddio tybaco gan bobl ifanc. Mae WASTED! yn adnodd dysgu/hyfforddi rhyngweithiol, wedi'i seilio ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (ICT), i'w ddefnyddio mewn ysgolion a mannau eraill lle mae pobl ifanc yn cwrdd. Mae'r adnodd yn ymwneud â chamddefnyddio tybaco, alcohol a defnyddiau anweddol ac fe'i lluniwyd i fod yn rhan o'r cwricwlm ABCH/PSE. Mae'r adnodd ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer ei ddefnyddio yng Nghymru.
Kathryn Peters
Prif Swyddog Safonau Masnach
Bwrdeistref Sirol Caerffili
Ffôn: 01495 235025
e-bost: peterk@caerphilly.gov.uk
Mae Canolfan Iechyd Cymru yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 ac mae ganddo gylch gwaith eang sy'n golygu gweithio â sefydliadau eraill er mwyn gwella iechyd yng Nghymru.
Canolfan iechyd Cymru
14 Heol yr Eglwys Gadeiriol
Caerdydd
CF11 9LJ
Ffôn: 02920 22 7744
e-bost: wch@wch.wales.nhs.uk
Rhaglen hybu iechyd yw ASSIST sy'n anelu at leihau ysmygu ymysg pobl ifainc rhwng 12 a 13 blwydd oed. Mae ymchwil yn dangos mai gweithgaredd grŵp yw ysmygu i bobl yn yr oedran hon.
Mae rhaglen ASSIST yn ceisio cyrraedd y nod hwn trwy hyfforddi disgyblion dylanwadol ynglŷn â sut i ledaenu safonau ymddygiad newydd trwy eu rhwydweithiau cymdeithasol sefydledig. Gyda chefnogaeth ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd ASSIST yn cael ei gyflwyno i 50 o ysgolion bob blwyddyn, gan fynd yn gyntaf i'r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Dengys canlyniadau'r prawf cyntaf fod ysmygu wedi gostwng 18.3%, a hynny'n cadarnhau bod y math hwn o ymyrraeth yn arbennig o effeithiol.
Mae Diwrnod Dim Ysmygu yn cael ei drefnu gan elusen o'r un enw (No Smoking Day) a weinyddir gan staff o bedwar gweithiwr llawn amser. Fe'i lleolir yn Llundain ac mae'n derbyn arian gan sefyliadau gwirfoddol a'r llywodraeth sydd â diddordeb mewn iechyd.
Amcan NSD yw helpu pobl sy'n awyddus i roi'r gorau i ysmygu trwy greu awyrgylch gefnogol iddynt a thrwy dynnu sylw at y ffynonellau cymorth niferus sydd ar gael iddynt.
Diwrnod Dim Ysmygu
59 Redchurch Street
Llundain
E2 7DJ
Ffôn: 020 7739 5110
e-bost: enquiries@nosmokingday.org.uk
