Ash Wales

Tuag at Gymru Ddi-Dybaco

Skip to main content

Site navigation

Ash Wales: Training

Fforwm Rheoli Tybaco Cymru

Mae ASH Cymru yn gweinyddu Fforwm Rheoli Tybaco Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fforwm rhwydweithio a meithrin gallu yw Fforwm Rheoli Tybaco Cymru. Mae’r Fforwm yn cynnal tair cynhadledd fach hanner diwrnod bob blwyddyn mewn lleoliadau ledled Cymru.

I ymuno â’r fforwm, lawrlwythwch a llenwch ffurflenni aelodaeth y fforwm

 

Dyfodol Di-fwg: Cynhadledd Rheoli Tybaco 2010 – 11 a 12 Hydref, Gwesty Mercure Holland House, Caerdydd

Mae’r gweithdai a’r cyflwyniadau sydd wedi’u cadarnhau yn y Gynhadledd yn cynnwys:

  • Lansio Ymgyrch Diwrnod Dim Smygu 2011
  • Ymgyrchwyr ifanc ar reoli tybaco yn adrodd eu storïau
  • Deall y Confensiwn Fframwaith ar Reoli Tybaco a Chynghrair y Confensiwn Fframwaith
  • Gwerthuso deddfwriaeth mannau gwerthu Iwerddon
  • Datblygu strategaeth rheoli tybaco i Gymru
  • Dyfodol Di-fwg
  • Rheoli Tybaco: Profiad y Ffindir
  • Y gwirionedd ynglŷn â rhoi’r gorau i ysmygu a magu pwysau
  • Ysmygu mewn ceir a rheoli tybaco yn Ontario
  • Monitro hysbysebion y diwydiant tybaco ar gyfryngau cymdeithasol
  • Gweithdai rhoi’r gorau iddi

Yn ogystal â sesiynau cyfochrog o bob sector ym maes rheoli tybaco, o roi’r gorau iddi i bolisi.

Bydd y cynadleddwyr yn cael y cyfle i ddysgu o’r llwyddiannau a’r heriau y mae ymarferwyr rheoli tybaco llwyddiannus wedi’u cael, yn y gynhadledd ryngweithiol iawn hon.

I gael mwy o fanylion ac i gofrestru’ch diddordeb ewch i

http://www.smoking-conference-wales.org.uk/

Hyfforddiant gan Gwmnïau Fferyllol

Mae cwmnïau fferyllol sy’n gweithredu yng Nghymru hefyd yn darparu hyfforddiant ar roi’r gorau iddi ledled Cymru. Nid yw ASH Cymru yn cymeradwyo unrhyw drefn gyffuriau na chwmni fferyllol penodol. Fodd bynnag, gan fod y cwmnïau fferyllol yn darparu hyfforddiant, rydym wedi cynnwys  manylion y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn yr adran hon.

 

Ymgynghorwyr

Cwmni ymgynghori arbenigol yw Work2Health sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sefydliadol, canllawiau polisi, cyngor a chymorth, wedi’u teilwra i’ch busnes i sicrhau gweithlu mwy heini ac iachach. Mae Work2Health hefyd yn cynnig hyfforddiant, seminarau a darlithoedd pwrpasol ar bynciau sy’n ymwneud â rheoli tybaco. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Work2Health

 

 

McNeil Ltd

Mae McNeil Ltd yn cynnig hyfforddiant rhoi’r gorau i ysmygu, sy’n ymdrin â’r cefndir cyffredinol i roi’r gorau i ysmygu, dibyniaeth ar dybaco, caethiwed i dybaco ac ati, a hefyd therapi ffarmacolegol. Nid yw’n hyrwyddo ei ystod o gynhyrchion ei hun ac mae’n ymdrin â’r holl gynhyrchion rhoi’r gorau i ysmygu.  Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant diweddaru, er enghraifft, sesiynau atgoffa am gynhyrchion ac unrhyw ddynodiadau newydd.

 

Am ragor o wybodaeth am hyfforddiant McNeil, cysylltwch â:

  • Susanne Renkes
  • Healthcare Development Manager
  • McNeil Ltd(a Johnson and Johnson company)
  • T: 07814 006471
  • E: email here

 

Pfizer

Mae Pfizer yn cydgysylltu amrywiaeth o gyrsiau lefel un a lefel dau ar roi’r gorau i ysmygu i nyrsys practis ledled Cymru.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Adrian Beeching

 

Ashfield In2Focus (GSK)

Mae’n bosibl y bydd GSK yn darparu hyfforddiant yng Nghymru. Cysylltwch â Gill Hanson

 

CYMORTH A GWYBODAETH ARALL

  • Mae’r canllaw hwn yn hawdd ei ddefnyddio ac yn adnodd ardderchog i weithwyr iechyd proffesiynol neu unrhyw un sydd â digon o ddiddordeb mewn helpu cyfeillion, cydweithwyr neu’r cyhoedd i roi’r gorau i ysmygu. Mae’n dwyn ynghyd wybodaeth a syniadau o amrywiaeth fawr o ffynonellau a gellir ei ddefnyddio gyda neu heb hyfforddiant arbenigol neu i gefnogi dulliau hyfforddi eraill. Gallwch ei lawrlwytho yma
  • Pecyn cychwynnol i gynghorwyr rhoi’r gorau i ysmygu – Er mwyn dechrau rhedeg sesiynau rhoi’r gorau i ysmygu – mae’r pecyn yn cynnwys llawlyfrau allweddol ar gyfer gwaith rhoi’r gorau iddi, taflenni a llyfrynnau. Gallwch ei lawrlwytho yma
  • Pecynnau rhoi’r gorau iddi/ffeiliau ffeithiau i’ch helpu i roi’r gorau i ysmygu. Gallwch eu lawrlwytho yma
  • Canllaw cynhwysfawr ar-lein ar roi’r gorau iddi. Gallwch ei lawrlwytho yma
  • Ysmygu a beichiogrwydd: Pecyn dysgu agored i fydwragedd Gallwch ei lawrlwytho yma

Os ydych yn dymuno cofrestru’ch hyfforddiant a/neu ddeunyddiau cymorth, anfonwch e-bost atom

A oeddech chi'n gwybod?

Bod mwy na 4000 o gemegau mewn mwg tybaco.

Llinell Gymorth i Ysmygwyr:
0800 169 0169
Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru:
0800 085 2219

Site information

© 2007 ASH Cymru | Dyluniwyd gan L Griffiths | Developed by Core

Map o'r Wefan |  Telerau |  Preifatrwydd |  Credits

Action on Smoking and Health (ASH) Wales, a registered charity (Charity Number:1120834) and Company Limited by Guarantee (6030302)