Dyma beth oedd gan bobl ifanc ym Mhenfro i’w ddweud…
And this is what young people in Pembroke had to say…
“Rwy’n credu bod mwg ail law yn niweidio’r bobl eraill o dy gwmpas cymaint â ti”Maria
“Mae’n dda bod y llywodraeth wedi gwahardd smygu mewn tafarnau a chlybiau. Mae’r mwg yn mynd o gwmpas dy fwyd ac os nad wyt ti’n smygu rwyt ti’n dal i’w anadlu i mewn”Dienw
“Dylet ti stopio smygu yn y ty a smygu yn yr ardd [er mwyn diogelwch dy deulu”Dienw
“Gall mwg ail law ein niweidio ni a’r bobl o’n cwmpas”Charlie
“…Gallwn ni farw [o fwg ail law] yn ogystal â’r smygwyr. Mae’n brifo ein hanifeiliaid anwes hefyd”Dienw
“Gall effeithio arnaf i yn ogystal â’r smygwr ac mae’n ddiflas pan rwy’n cerdded ar draws y strydoedd [ac yn ei anadlu i mewn].”Chelbie
“Leicio neu beidio [mae mwg ail law] yn effeithio ar bobl ac mae’n gallu lladd trwy danau.”Chelbie
“Rwy’n meddwl ei bod hi’n eitha da [bod â chartref di-fwg] oherwydd gall plant fod lle mae’r mwg a’i gymryd i mewn.”Cory
“Rwy’n meddwl bod hi’n well bod smygu mewn tafarnau wedi cael ei wahardd, gan fod rhai pobl efallai ddim yn smygu ac yn casáu ei oglau. Gall perchnogion tai wahardd smygu os ydyn nhw eisiau.”Sammy-Jo
“Dylen nhw stopio smygu yn y ty a smygu yn yr ardd!”Sammy-Jo