Anifeiliaid anwes
Beth yw’r broblem?
Mae anifeiliaid anwes (gan gynnwys cathod, cwn ac adar) yn dioddef o fwg ail-law hefyd. Mae mwg tybaco’n cynyddu risg anifeiliaid anwes o gael canser, clefyd y galon, heintiau resbiradol fel broncitis cronig, llid yr ysgyfaint ac asthma, a chlefydau eraill. Mae anifeiliaid anwes hefyd yn amsugno cemegau peryglus pan maent yn llyfnu eu blew oherwydd bod y gwenwynau o fwg tybaco’n glanio arno.
Sut allwn ni amddiffyn ein hanifeiliaid anwes?
- Gwnewch eich cartref yn ddi-fwg. Gofynnwch i’r smygwyr fynd y tu allan i’r ty pan maent eisiau sigarét. Nid yw agor ffenestr yn ddigon.
- Gwnewch eich car yn ddi-fwg. Gadewch i smygwyr gael sigarét cyn i chi gychwyn, ac ar deithiau hirach cymerwch hoe am sigarét er mwyn atal y temtasiwn i danio un yn y car. Neu defnyddiwch patsys neu gwm nicotin.
- Cadwch flychau llwch yn lân – peidiwch â gadael bonion ynddynt i anifeiliaid anwes ddod o hyd iddynt. Cadwch y blychau llwch allan o afael anifeiliaid anwes, y tu allan os oes modd.
- Ystyriwch roi’r gorau i smygu – mae effeithiau smygu ar iechyd eich anifeiliaid anwes yn rheswm da arall dros roi’r gorau iddi.
Beth fydd cartref di-fwg yn ei olygu i’m hanifail anwes?
- Bydd yr anifeiliaid anwes yn hapusach
- Bydd ganddynt lai o broblemau iechyd
- Byddant yn llai tebygol o ddioddef o ganser
- Byddant yn arogleuo’n well