Ash Wales

Tuag at Gymru Ddi-Dybaco

Skip to main content

Site navigation

Plant mewn cartrefi myglyd

Beth yw’r broblem?

Amcangyfrifir bod 40% o’r aelwydydd yn y DU â phlant – h.y. rhyw bum miliwn o blant – yn dod i gysylltiad â mwg ail-law yn y cartref 1. Yng Nghymru, 37% yw’r ffigur 2

Wyddoch chi?

Mae plant smygwyr 70 y cant yn fwy tebygol o orfod mynd i’r ysbyty na phlant nad yw eu rhieni’n smygu, yn ôl meddyg amlwg.

Mae Dr Iolo Doull, sy’n baediatregydd resbiradol ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn honni bod tua thraean y plant mae’n eu trin yno oherwydd problemau yn y frest sy’n gysylltiedig â smygu goddefol yn y cartref.

Meddai Dr Doull:

“Os yw un rhiant neu’r llall yn smygu, mae’ch siawns o gael problem yn y frest 20 y cant yn fwy ac mae’ch siawns o gael problem yn y glust 60 y cant yn fwy. Mae risg syndrom marwolaeth sydyn babanod, neu farwolaeth yn y crud, ddwywaith yn fwy mewn mamau sy’n smygu nag mewn mamau nad ydynt yn smygu.

“Yn y bôn, rydych chi’n fwy tebygol o gael pesychu a gwichian yn ystod dwy flynedd cyntaf eich oes. Mae risg dod i’r ysbyty 70 y cant yn fwy nag os oes gennych rieni nad ydynt yn smygu.”

Dywedodd Dr Doull bod pa mor reolaidd yr oedd plant yn dod â phroblemau yn y frest, o’i gymharu â faint roedd eu rhieni’n smygu, yn dangos pa mor fawr yw effeithiau smygu.

Ychwanegodd:

“Ddylai rhieni ddim smygu yn y ty. Does dim ots os yw’r rhieni yn y stafell fyw a’r plentyn yn y gegin, ddylen nhw smygu y tu allan.

I ddarllen yr erthygl i gyd

Mae babanod a phlant bach mewn perygl arbennig:

  • Ni allant ddianc rhag y mwg yn y cartref gan fod angen iddynt aros yn agos at eu rhieni.
  • Ni allant ddweud bod y mwg yn amharu arnynt.
  • Mae eu hysgyfaint yn fach, yn fregus ac yn datblygu, ac yn fwy agored i niwed gan fwg (efallai y byddwch yn sylwi eu bod yn cael peswch yn amlach ac yn gwichian mwy).
  • Mae pibellau clust mewnol bach ganddynt, sy’n cynyddu eu siawns o gael haint ‘clust lidiog’ sy’n gysylltiedig â smygu.

Mae plant yn llawer mwy tebygol o ddechrau smygu os yw eu rhieni’n smygu gartref.

Felly beth yw’r ateb?

Gwnewch eich cartref yn ddi-fwg! Gofynnwch i smygwyr bicio allan pan maent eisiau sigarét.

Beth fydd cartref di-fwg yn ei olygu i ’mhlant?

Bydd plant:

  • yn llai tebygol o fod yn absennol o’r ysgol gydag annwyd a pheswch
  • â chynhwysedd ysgyfaint mwy
  • yn peidio ag arogleuo o dybaco
  • yn mwynhau amgylchedd eu cartref fwy o lawer
  • yn llawer llai tebygol o ddechrau smygu eu hunain

Bydd babanod:

  • yn llai tebygol o farw yn y crud

1. British Medical Association Board of Science. 2007. Breaking the cycle of children’s exposure to tobacco smoke. London – BMA.

2. Wales Centre for Health. Nov 2007. Smoking in Wales: current facts. http://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/568/WCH%20smoking%20ban%20report%20E%20final.pdf

Yn yr adran hon

Smoking & Health

A growing body of evidence suggests that smoking may cause male sexual impotence. Certain studies suggest that smokers are at least 50 per cent more likely to suffer from erectile dysfunction. It is estimated that in the UK, 120,000 men aged 30-50 years are impotent because of smoking. The effect is seen in men of all ages. One study of almost 4,500 men aged 31-49 years found that in smokers, the risk of impotence was 1.5 times that in non-smokers. Another study of men aged 40-70 years found that men who smoked were twice as likely as non-smokers to develop moderate or severe impotence.

Smoking & Health

Women who use combined oral contraceptives are at increased risk of heart disease. Because the risk of heart disease in young women is low, the benefits of using the pill generally outweigh the risks for young women who do not smoke. Among pill-users who smoke, however, the risk of having a heart attack is some 20 times higher.

Site information

© 2007 ASH Cymru | Dyluniwyd gan L Griffiths | Developed by Core

Map o'r Wefan |  Telerau |  Preifatrwydd |  Credits

Action on Smoking and Health (ASH) Wales, a registered charity (Charity Number:1120834) and Company Limited by Guarantee (6030302)