Ceir di-fwg
Nid oes unrhyw lefel ddiogel o gysylltiad â mwg ail-law.
Beth yw’r broblem?
Oherwydd bod y lle y tu mewn i gar mor fach, mae crynodiad uwch o fwg yn cael ei gynhyrchu’n gyflym. Hyd yn oed gyda’r ffenestr i lawr a’r sigarét yn hongian allan o’r ffenestr rhwng pyffiau, mae’r car mor wenwynig â bar myglyd iawn. Ac os yw’r ffenestri ar gau, bydd y car yn fwy gwenwynig na bar myglyd iawn. Canfu astudiaeth ddiweddar gan Ysgol Feddygaeth Wellington fod y car, wrth smygu ynddo gyda’r ffenestr ar gau, â 100 gwaith mwy o lygredd ynddo nag sydd ar groesffordd brysur. Ac ar ôl gorffen y sigarét, gall y nwyon angheuol mewn mwg ail-law aros am oriau, hyd yn oed pan mae’r ffenestri ar agor.
Felly beth yw’r ateb?
Gwnewch eich car yn ddi-fwg! Dyma rai camau syml
- Peidiwch â smygu yn y car a pheidiwch â chaniatáu i bobl eraill smygu yn eich car
- Cymerwch hoe i smygu ar deithiau hir neu defnyddiwch patsys neu gwm nicotin
- Rhowch arwydd ar y panel blaen neu ar ffenestr, yn atgoffa’ch teithwyr i beidio â smygu
- Cadwch flwch llwch y car yn llawn melysion neu arian mân
Beth fydd car di-fwg yn ei olygu?
- Bydd car di-fwg yn lanach, yn fwy ffres ac yn fwy cyfforddus
- Gall car di-fwg fod yn haws ei werthu, gyda gwerth uwch
- Llai i dynnu’ch sylw wrth yrru. Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn ystyried smygu wrth yrru’n beth sy’n tynnu’ch sylw wrth yrru1.1.
1. Rheolau’r Ffordd Fawr, Cyngor Cyffredinol http://www.direct.gov.uk/en/TravelAndTransport/Highwaycode/DG_070309. Accessed 05.03.09.