Ash Wales

Tuag at Gymru Ddi-Dybaco

Skip to main content

Site navigation

Oedolion a chartrefi myglyd

Beth yw’r broblem?

Mae gan bobl nad ydynt yn smygu sy’n dod i gysylltiad â mwg ail-law risg 24% yn uwch, o leiaf, o gael canser yr ysgyfaint a risg 25% yn uwch o gael clefyd y galon. Mae mwg ail-law hefyd yn ffactor risg pwysig ar gyfer llawer o gyflyrau eraill, gan gynnwys:

  • Asthma: Gall smygu sbarduno asthma, neu wneud symptomau asthma’n waeth
  • Broncitis
  • Niwmonia
  • Strôc
  • Canser: Gwyddys bod mwy na 50 o’r 4000 o gemegau mewn mwg tybaco yn achosi canser

Ac mae gan smygwyr, yn ogystal â phobl nad ydynt yn smygu, fwy o risg o gael y clefydau hyn sy’n gysylltiedig â smygu os ydynt yn dod i gysylltiad â mwg pobl eraill yn y cartref.

Beth fydd cartref di-fwg yn ei olygu i’n haelwyd ac i’n cartref?

Bydd pawb ar eich aelwyd yn anadlu llawer llai o fwg. Yn ogystal â lleihau risg pawb o gael nifer fawr o glefydau sy’n gysylltiedig â smygu, mae’n bosibl y gwelwch:

  • Fod smygwyr yn ei chael yn haws i roi’r gorau iddi
  • Bod smygwyr yn smygu llawer llai
  • Y bydd cyn-smygwyr yn ei chael yn haws peidio ag ailddechrau smygu
  • Na fydd blychau llwch a thanwyr yn annibendod drwy’r ty
  • Y gallwch fwynhau cartref glanach a mwy siriol – dim mwy o ludw, staenau na llosgiadau sigaréts, dim mwy o flychau llwch yn annibendod drwy’r ty
  • Bod llai o angen ailaddurno! Dim mwy o afliwio’r gwaith paent a’r papur wal
  • Bod llai o risg tân yn y ty – mae mwy o bobl yn marw mewn tanau a achosir gan sigaréts nag unrhyw achos arall – yn y DU, mae tanau sy’n gysylltiedig â smygu’n achosi marwolaeth oddeutu un person bob tri diwrnod, ac i 1800 o bobl gael eu hanafu bob blwyddyn 1
  • Bydd eich bwyd yn blasu ac yn arogleuo’n well
  • Byddwch yn arbed arian gan fod y smygwyr ar yr aelwyd yn debygol o smygu llai neu roi’r gorau iddi.
  • Bydd anifeiliaid anwes y teulu’n iachach ac yn hapusach a byddant yn byw’n hirach

1. Fire Statistics United Kingdom, 2002. Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog, 2004. tt.19 – 21.

Yn yr adran hon

Did You Know?

Twelve months after you quit, your increased risk of dying from heart disease is half that of a continuing smoker.

Did You Know?

Stopping smoking reduces the incidence and progression of lung disease including chronic bronchitis and emphysema.

Site information

© 2007 ASH Cymru | Dyluniwyd gan L Griffiths | Developed by Core

Map o'r Wefan |  Telerau |  Preifatrwydd |  Credits

Action on Smoking and Health (ASH) Wales, a registered charity (Charity Number:1120834) and Company Limited by Guarantee (6030302)