ASH Cymru Datganiad Preifatrwydd
ASH Cymru – Pwy Ydym Ni
Yn y Telerau ac Amodau isod, mae'r geiriau “ni” ac “ein” a berfau cyfatebol (megis “yr ydym”, “casglwn”, ac yn y blaen) yn cyfeirio at Action on Smoking and Health (ASH) Wales, elusen gofrestredig (Rhif Elusen: 262067) a Chwmni Cyfyngedig gan Warant (Lloegr: 998971): lleolir ei Swyddfeydd Cofrestredig yn 102 Clifton Street, Llundain, EC2A 4HW
Sut yr ydym yn casglu gwybodaeth a pha wybodaeth a gasglwn
Gallai'r wybodaeth a gasglwn trwy'r wefan gynnwys:-
Manylion personol a gyflwynir gennych yn fwriadol trwy gyfrwng ffurflenni a negeseuon e-bost, megis enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac yn y blaen. Er mwyn prosesu trafodion cerdyn credyd neu ddebyd fe all fod yn angenrheidiol i'r banc neu'r asiantaeth sy'n prosesu'r cerdyn i wirio'ch manylion personol ar gyfer eu hawdurdodi y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Ni fydd yr wybodaeth honno yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r EEA at unrhyw ddiben arall.
Eich dewisiadau a'ch defnydd o ddiweddariadau e-bost, a gofnodir mewn negeseuon e-bost a anfonwn atoch (os dewiswch dderbyn diweddariadau e-bost ynglŷn â nwyddau a chynigion).
Eich cyfeiriad IP. Cyfres o rifau yw hwn sy'n unigryw i'ch cyfrifiadur chi. Fe'i cofnodir gan ein gweinydd gwe pan ofynnwch am dudalen neu unrhyw elfen arall o'r Wefan. Defnyddir yr wybodaeth hon i fonitro'ch defnydd o'r Wefan. Gwybodaeth a gofnodir gan y Wefan sy'n ein galluogi i'ch adnabod chi a'r gosodiadau a ddewiswyd gennych. Mae hyn yn eich gwaredu rhag ail-osod gwybodaeth wrth ddychwelyd i'r safle. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chadw'n lleol ar eich cyfrifiadur trwy ddefnyddio cwcis. Gellir rhaglennu'r rhan fwyaf o borwyr i wrthod cwcis neu'ch rhybuddio cyn iddynt gael eu lawrlwytho. Ceir gwybodaeth bellach am hyn trwy ddefnyddio gwasanaeth 'Help' eich porwr.
Yr hyn a wnawn â'ch gwybodaeth
Defnyddir unrhyw wybodaeth a gesglir o'r wefan hon yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a deddfau perthnasol eraill. Defnyddir y manylion a gesglir:-
I weinyddu'ch archeb ac i ddarparu gwasanaeth ôl-werthu. Efallai y byddwn yn trosglwyddo'ch manylion i sefydliad arall fel y gall gyflenwi/ddosbarthu'r nwyddau neu'r gwasanaethau a brynwyd gennych, a/neu ddarparu gwasanaeth ôl-werthu.
Weithiau, fe allem ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost er mwyn anfon gwybodaeth atoch am ein nwyddau a gwasanaethau eraill. Bryd hynny, cewch gyfle i ymneilltuo o'r trefniant hwn cyn i chi brynu dim byd.
Mae'n bosibl y bydd angen trosgwlyddo'r wybodaeth a gasglwn i gwmnïau eraill at ddibenion gweinyddol. Gallem ddefnyddio tydydd parti i gyflawni rhai gweithgareddau, megis prosesu a didoli gwybodaeth, monitro sut mae cwsmeriaid yn defnyddio'r Wefan ac anfon negeseuon e-bost ar ein rhan. Ni chaniateir i drydydd parti ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol at eu dibenion nhw eu hunain.
Eich Hawliau
Mae gennych hawl i fynnu copi o unrhyw wybodaeth amdanoch sydd yn ein meddiant. Er mwyn derbyn yr wybodaeth hon, anfonwch eich manylion cyswllt (yn cynnwys eich cyfeiriad), os gwelwch yn dda, ynghyd â thâl o £10 tuag at gostau gweinyddol, i'r cyfeiriad canlynol:-
Adran Breifatrwydd
ASH Cymru
8 Stryd yr Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3 BG
Gwefannau Eraill
Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn ymwneud â'r wefan hon yn unig. Mae gwefannau eraill a gysylltir â'n gwefan ni yn cael eu rheoli yn ôl eu polisïau nhw eu hunain, a allai fod yn wahanol i'n polisïau ni.