Datganiadau i'r Wasg
Mae ysmygwyr yn cymryd mwy o seibiannau salwch: dyma ragor o dystiolaeth ynglŷn â manteision troi'n ddi-fwg yn fuan
Dengys ymchwil newydd o Sweden fod ysmygwyr yn cymryd bron wyth diwrnod yn fwy o seibiannau salwch na phobl sydd ddim yn ysmygu. [1] Mae'r astudiaeth fawr, genedlaethol a chynrychioladol hon yn cynnig y dystiolaeth orau a welwyd erioed bod ysmygu yn cael effaith ar lefelau cynhyrchu. Ar draws y sampl cyfan, 25 oedd y nifer gyfartalog o ddyddiau a gymerwyd i ffwrdd oherwydd anhwylder, ond cymerodd ysmygwyr 11 diwrnod yn fwy na'u cydweithwyr di-fwg. Wedi cymryd i ystyriaeth ffactorau eraill megis statws economaidd-gymdeithasol a natur y gwaith a wneid, ychydig yn llai nag 8 diwrnod oedd y gwir wahaniaeth.
Dyma a ddwedodd Deborah Arnott, Cyfarwyddwr ASH, yr elusen ymgyrchu dros iechyd, am yr astudiaeth:
"Mae'r ymchwl yn dangos yn glir bod ysmygwyr yn colli llawer mwy o amser gwaith trwy salwch, ond hyn sy'n ddiddorol: o'r funud maen nhw'n rhoi'r gorau iddi, maen nhw'n dechrau bod yn fwy cynhyrchiol". "Bydd y ddeddfwriaeth wrth-ysmygu yn dod â buddion mawr i weithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd, o ran eu hiechyd a'r economi. Wrth i ddyddiad y gwaharddiad nesáu, dylai cyflogwyr roi cymaint o gefnogaeth ag y gallan nhw i'r staff hynny sydd angen help i roi'r gorau i ysmygu."
Ni ellir gorbwysleisio y buddion sy'n dod o roi'r gorau i ysmygu, ac mae'r effeithiau llesol yn cael eu teimlo'n fuan iawn. [2] Y mae gweithlu di-fwg yn llawer mwy tebygol o fod yn weithlu iach a chynhyrchiol.
Nodiadau a dolennau:
[1] Lundborg P. Does smoking increase sick leave? Evidence using a register data on Swedish workers. Tobacco Control 2007; 16: 114-118
[2] Gweler ASH Factsheet no. 11 Stopping smoking: The benefits and aids to quitting.http://www.ash.org.uk/html/factsheets/html/fact11.html
Y gwaharddiad ar ysmygu'n creu platfform ar gyfer lleihau ymhellach y problemau a achosir gan sigaréts
Dechrau'r frwydr yw'r gwaharddiad, nid ei diwedd, medd Tanya Buchanan o ASH.
Daw'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus i rym ddydd Llun. Y mae'n gam allweddol tuag at leihau'r nifer o afiechydon a marwolaethau a achosir trwy ddod i gysylltiad â mwg tybaco.
Ond dechrau'r frwydr yw'r gwaharddiad, nid ei diwedd. Er mwyn lleihau'r nifer o farwolaethau a achosir bob blwyddyn yng Nghymru gan ysmygu 6,000 ohonynt ar hyn o bryd bydd angen i ni ddal ati'n barhaus ac yn ddygn ymhell ar ôl i'r gwaharddiad gael ei wethredu.
Y canlyniad gorau i iechyd cyhoeddus yng Nghymru fydd gweld cynnydd yn y gefnogaeth a'r gwariant ym maes gweithgareddau atal ysmygu, yn enwedig y rhai a anelir at bobl ifanc a phlant, a hefyd yn y gwasanaethau sy'n helpu ysmygwyr i roi'r gorau iddi.
Mae'r gwaharddiad yn bwysig am ei fod yn amddiffyn pobl rhag mwg ail-law yn y gweithle. Mae gan bobl yr hawl i fynd i'r gwaith heb wynebu niwed gan sylweddau peryglus. Cofnodwyd effeithiau mwg ail-law yn fanwl. Pan fydd pobl sydd ddim yn ysmygu yn dod i gysylltiad â mwg ail-law, maen nhw'n profi effeithiau tymor byr megis cosi poenus ar y llygaid, pen tost ac anhawster wrth anadlu; ond maen nhw hefyd yn llawer tebycach o gael canser yr ysgyfaint neu glefyd y galon.
Mae oedolion sydd ddim yn ysmygu ond sy'n dod i gysylltiad â mwg ail-law, 24% yn fwy tebygol o ddatblygu canser yr ysgyfaint a 25% yn fwy tebygol o ddioddef gan glefyd y galon.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dyfynnu geiriau Sir Richard Doll, a ddaeth yn adnabyddus oherwydd ei waith ymchwil sy'n cysylltu ysmygu â phroblemau iechyd: "Mae treulio awr bob dydd yn yr un stafell â rhywun sy'n ysmygu gan waith yn fwy tebygol o achosi canser yr ysgyfaint mewn rhywun sydd ddim yn ysmygu, na threulio 20 mlynedd mewn adeilad sy'n cynnwys asbestos."
Rydym ni, yn ASH (Gweithredu ar Ysmygu ac Iechyd), wedi cefnogi'r ddeddfwriaeth hon erioed, ond nid am ein bod ni'n elyniaethus tuag at ysmygwyr: gwyddom fod nicotin yn gyffur caethiwus iawn; gwyddom hefyd, trwy siarad ag ysmygwyr ac o'r ymchil a wnaed gan eraill, y byddai'r rhan fwaf o ysmygwyr (70-80%) wrth eu bodd petaen nhw'n gallu rhoi'r gorau iddi. Mae'r gwaharddiad yn rhoi hwb iddynt wneud hynny.
Dangosodd pôl a drefnwyd gan Ddiwrnod Dim Ysmygu fod un o bob pum ysmygwr yng Nghymru yn bwriadu ceisio rhoi'r gorau iddi o ganlyniad i'r gwaharddiad sy'n dod i rym ar 2 Ebrill. Y gwir amdani, fodd bynnag, yw mai methu wnaiff llawer ohonynt ar eu cynnig cyntaf. Fel arfer, mae angen sawl cynnig cyn llwyddo. Ac mae angen cefnogaeth ac anogaeth i gyrraedd y nod. Rhaid iddynt sylweddoli pa mor bwysig yw dal ati: nid yw methu unwaith yn golygu eu bod nhw'n gaeth i dybaco am byth.
Mae'r amcangyfrifon gorau yn awgrymu y gall fod gostyngiad o 4% yn nifer yr ysmygwyr yng Nghymru o ganlyniad i'r gwaharddiad. Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd miloedd o bobl yn dal i farw oherwydd ysmygu sigaréts. Mae'n bwysig bod pawb yn deall peryglon ysmygu. Dywed Sefydliad Iechyd y Byd: "Nid oes yr un cynnyrch arall ar y farchnad sydd hanner mor beryglus neu'n lladd cymaint o bobl. Mae tybaco yn lladd mwy o bobl nag AIDS, cyffuriau cyfreithlon, cyffuriau anghyfreithlon, damweiniau ffordd, llofruddiaethau a hunan-laddiadau gyda'i gilydd."
Bydd un o bob dau ysmygwr yn marw o flaen ei amser. Bydd y gwaharddiad yn diogelu pobl rhag anadlu mwg yn y gweithle, ond erys llawer o waith i'w wneud er mwyn lleihau'r nifer sy'n marw o ysmygu yng Nghymru. Rhaid gwario mwy ar addysg a gwaith atal a chynorthwyo pawb sydd am roi'r gorau iddi.
Rhaid i ni addysgu plant a phobl ifanc fel na fyddant byth yn dechrau ysmygu. Mae gormod ohonynt yn ysmygu eisioes: yng Nghymru, mae 19% o'r bechgyn a 27.5% o'r merched rhwng 15 a 16 yn ysmygu. Y gwir amdani yw y bydd hanner y bobl ifainc hyn yn marw cyn eu hamser oni bai eu bod nhw'n rhoi'r gorau iddi.
Rhaid rhoi mwy o gefnogaeth i ysmygwyr hefyd. Peth anodd yw rhoi'r gorau i ysmygu, ond nid yw'n amhosibl. Rhaid rhoi cefnogaeth i ysmygwyr sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi ac yn methu, i sicrhau eu bod nhw'n dal ati. Mae Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru yn cynnig pob cefnogaeth i ysmygwyr i'w helpu i gefnu ar y mwg. Gellir cysylltu â'r Gwasanaeth trwy ffonio 08000 852 219.
Deddfwriaeth hynod bwysig yw'r gwaharddiad hwn, sy'n diogelu pawb, yn enwedig yn ystod eu horiau gwaith. Ond mae llawer i'w wneud o hyd. Gellir lleihau'r nifer sy'n marw oherwydd defnyddio tybaco. Does dim rhaid i bobl fynd yn sâl a marw o ganlyniad i rywbeth sydd mor hawdd i'w osgoi.
Tanya Buchanan yw Cyfarwyddwr Gweithredu ar Ysmygu ac Iechyd (Ash) Cymru.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn rhifyn 31 Mawrth y Western Mail. Cliciwch Ymaer mwyn ymweld â'r wefan.
Gweithio gyda'n gilydd i gefnogi Diwrnod Dim Ysmygu
Ar 2 Ebrill 2007, bydd deddf yn dod i rym sy'n gwahardd ysmygu ym mhob lle cyhoeddus caeedig, yn cynnwys tafarnau, tai bwyta a gweithleoedd.
Amcan y ddeddfwriaeth yw diogelu pobl rhag peryglon mwg ail-law. Ar yr un pryd, y mae'n cyfyngu rywfaint ar ein rhyddid personol – y rhyddid i benderfynu pryd a ble y dymunwn ysmygu. Pam y dylem ni dderbyn y cyfyngu hwn ar ein rhyddid?
Mae'r erthygl hon yn ymddangos yn Rhifyn Mawrth/Ebrill y Welsh Countryside Magazine. Cliciwch yma er mwyn ymweld â'r wefan.
Gweithio gyda'n gilydd i gefnogi Diwrnod Dim Ysmygu
Cynhelir Diwrnod Dim Ysmygu ar 14 Mawrth. Y thema eleni yw Troi Dalen Newydd. Daeth Diwrnod Dim Ysmygu, sy'n 24 blwydd oed eleni, yn achlysur pwysig yn y calendr Cymreig oherwydd ei boblogrwydd ymhlith ysmygwyr a'i lwyddiant parhaol wrth gyflwyno'r buddiannau sy'n dod o roi'r gorau i ysmygu. Gyda dim ond tair wythnos i fynd nes daw'r gwaharddiad i rym, bydd Diwrnod Dim Ysmygu eleni yn gyfle gwych i ysmygwyr geisio gefnu ar y hen fwg.
ASH Cymru yn Croesawu Mannau Cyhoeddus Di-Fwg
Croesawodd ASH Cymru heddiw y cyhoeddiad bod Cymru i droi'n dd-fwg ar 2 Ebrill 2007.
ASH Cymru yn Gwrthwynebu Gohirio'r Gwaharddiad ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus
Heddiw, condemniodd ASH Cymru newid arfaethedig i'r ddeddfwriaeth a fydd yn gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru. O dan y ddeddfwriaeth ddrafft, bydd Cymru'n troi'n ddi-fwg ar 2 Ebrill 2007. Mae newid a gyflwynwyd gan dri Aelod Cynulliad yn gofyn am ohirio'r gwaharddiad tan fis Gorffennaf, pan fydd Lloger hefyd yn gwahardd ysmygu.
Tîm Rheoli Newydd i ASH Cymru
Mae ASH (Action on Smoking and Health) yng Nghymru wedi penodi Cadeirydd newydd a Chyfarwyddwr newydd. Byddant yn dechrau yn eu swyddi yn 2007. Yr Athro Steven Tomlinson sy'n olynu Dr Norman Mills fel Cadeirydd. Mae Dr Mills yn ymddeol ar ôl chwe blynedd yn y gadair. Ms Tanya Buchanan yw'r Gyfarwyddwraig newydd, yn lle Ms Naomi King, sy'n ymddeol.