Newyddion ASH Cymru
Bydd y gwaharddiad ar ysmygu "o fudd i filoedd o bobl sy'n dioddef gan afiechydon tymor hir"
Bydd miloedd o bobl yng Nghymru sy'n dioddef gan afiechydon tymor hir yn elwa o'r gwaharddiad ar ysmygu a ddaw i rym ym mis Ebrill eleni.
Bydd y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau caeedig yng Nghymru, sydd i'w weithredu ar 2 Ebrill 2007, yn dod â buddion mawr i'r miloedd o bobl sy'n dioddef gan afiechydon tymor hir. Dyna'r neges gan Gynghrair Cyflyrau Hirdymor Cymru, a sefydlwyd y llynedd ac sy'n tynnu ynghyd rai o'r prif elusennau iechyd yng Nghymru.
Mae oddeutu un o bob tri oedolyn yng Nghymru tua 800,000 o bobl – yn dioddef gan o leiaf un anhwylder tymor hir, a gall llawer o'r anhwylderau hynny waethygu trwy ddod i gysylltiad â mwg tybaco:
- Gwyddom fod ysmygu'n niweidiol i bobl sydd â'r clefyd siwgr arnynt; hefyd, gall gynyddu'r perygl o ddatblygu diabetes Math 2 yn y lle cyntaf.
- Dywedodd 79% o'r bobl sy'n dioddef gan asthma fod mwg pobl eraill yn cael effaith andwyol ar eu cyflwr
- Mae nwy na 40% o'r bobl sydd â COPD (clefyd ysgyfeiniol rhwystrol cronig) yn dweud na fyddant yn mynd i dafrndai a thai bwyta oherwydd effaith y mwg yno ar eu cyflwr.
- Mae pobl sydd wedi ysmygu ddwywaith yn fwy tebygol o gael y crydcymalau gwynegol na'r rhai sydd heb ysmygu erioed. Mae'n bosibl bod ysmygu hefyd yn gwneud y cyflwr hwnnw'n waeth
Ymateb i'r Gyllideb – ASH Cymru'n croesawu'r gostyngiad yn y dreth ar nwyddau sy'n helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu
Heddiw croesawodd ASH Cymru benderfyniad y Canghellor i ostwng y Dreth ar Werth ar nwyddau sy'n helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu i 5%. Oherwydd y penderfyniad hwn, bydd yn haws i bobl brynu'r nwyddau hyn, yn enwedig y 20% o ysmygwyr a ddwedodd eu bod nhw am roi'r gorau i'r mwg o flaen y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus.
Dyma a ddwedodd Tanya Buchanan, Cyfarwyddwr ASH Cymru,
"Rydyn ni'n gwybod bod y nwyddau hyn yn helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu. Yn anffodus, mae nifer o bobl, ac yn enwedig rhai ar incwm isel, yn gyndyn o'u prynu oherwydd eu cost. Gall defnyddio cynhyrchion disodli nicotin ei gwneud ddwywaith yn fwy tebygol y bydd ysmygwr yn llwyddo i roi'r gorau iddi. Anogwn bob ysmygwr sydd am roi'r gorau iddi ofyn am gyngor gan Wasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru trwy ffonio 0800 085 2219."
Ond, er gwaethaf y gostyngiad yn y dreth ar werth ar nwyddau rhoi'r gorau i ysmygu, mae ASH Cymru'n siomedig nad yw'r Canghellor wedi codi ymhellach y dreth ar dybaco. Dangoswyd eisoes bod cynyddu pris sigaréts i lefel fwy na graddfa chwyddiant yn arwain at lai o ysmygu. Ceir cefnogaeth gyhoeddus eang i gynnydd pellach yn y dreth ar sigaréts, ar yr amod bod yr arian a godir yn cael ei roi tuag at helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu ac i leihau'r nifer o bobl ifanc sy'n dechrau ysmygu.
Gweithio gyda'n gilydd i gefnogi Diwrnod Dim Ysmygu
Cynhelir Diwrnod Dim Ysmygu ar 14 Mawrth. Y thema eleni yw Troi Dalen Newydd. Daeth Diwrnod Dim Ysmygu, sy'n 24 blwydd oed eleni, yn achlysur pwysig yn y calendr Cymreig oherwydd ei boblogrwydd ymhlith ysmygwyr a'i lwyddiant parhaol wrth gyflwyno'r buddiannau sy'n dod o roi'r gorau i ysmygu. Gyda dim ond tair wythnos i fynd nes daw'r gwaharddiad i rym, bydd Diwrnod Dim Ysmygu eleni yn gyfle gwych i ysmygwyr geisio cefnu ar yr hen fwg.
Dyma a ddywedodd Ben Youdan, Prif Weithredwr Diwrnod Dim Ysmygu, yr elusen sy'n gyfrifol am yr ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd:
"Pob lwc i'r holl smygwyr sydd o ddifri ynglŷn â dechrau o'r newydd heddiw, ar Ddiwrnod Dim Ysmygu. Does dim byd tebyg i roi'r gorau i ysmygu ar gyfer gweddnewid eich ffordd o fyw. Byddwch yn teimlo'n yn fwy heini, yn fwy iach, a bydd gynnoch chi fwy o arian ac egni! Gallai rhywun sy'n smygu 20 sigarét bob dydd arbed hyd at £1,800. Trwy fanteisio ar gymorth eich NHS lleol, a'i Wasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu, byddwch bedair gwaith yn fwy tebygol o barhau'n ddi-fwg!"
Cyfri'r eiliadau nes daw'r gwaharddiad ar ysmygu i rym yng Nghymru
Dim ond dau fis sydd ar ôl nes gweithredu'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dadorchuddio cloc digidol yng nghanol Caerdydd a fydd yn cyfri'r diwrnodau, yr oriau, y munudau a'r eiliadau tan 2 Ebrill. Ar yr un pryd, bydd fan hysbysebu, â chloc-cyfri'n-ôl arni, yn cychwyn ar daith 60 diwrnod trwy drefi a phentrefi Cymru, er mwyn atgoffa busenesau a'r cyhoedd am ddyddiad y gwaharddiad.
Bydd y prif gloc ar gyfer nodi'r amser sydd ar ôl tan y gwaharddiad yn cael ei roi yn nho gwydr y Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr yn yr Hen Lyfrgell yn Yr Aes, Caerdydd.
Dewiswyd y safle hwn ar y cyd â Chyngor Caerdydd am ei fod mewn lle amlwg ac yn agos i ganolfannau siopau, barrau a thai bwyta'r Brifddinas.
Bydd y cloc symudol yn ymweld ag ugeiniau o drefi a phentrefi ar draws Cymru yn ystod y ddau fis hyn a bydd ganddo ran amlwg mewn nifer o weithgareddau yng Nghymru, yn cynnwys Gŵyl Ddewi a Diwrnod Dim Ysmygu ar 14 Mawrth.
Oedran ysmygu'n gyfreithlon yn newid o 16 i 18 ar 1 Hydref 2007 yn y Deyrnas Gyfunol
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn anghyfreithlon i siopwyr werthu sigaréts i bobl 16 mlwydd oed.
Mae ymchwil yn dangos bod tua 20% o blant 15 oed ym Mhrydain–16% o'r bechgyn a 25% o'r merched yn ysmygu'n rheolaidd. Dyma'r oedran allweddol pan ddaw plant dan bwysau mawr i ysmygu a thrwy hynny i beryglu eu hiechyd.
Mae ASH Cymru o'r farn, felly, bod hyn yn gam mawr ymlaen o ran lleihau'r problemau iechyd a achosir gan dybaco ac, yn y pen draw, eu diddymu'n llwyr.
"Ystyriwch 1,000 o ysmygwyr ifainc. Bydd un yn cael ei lofruddio. Bydd chwech yn cael eu lladd ar yr heolydd. Ond bydd 500 yn marw o effeithiau tybaco." (Syr Richard Peto, Athro Ystadegau Meddygol ac Epidemioleg ym Mhrifysgol Rhydychen).
ASH Cymru yn croesawu mannau cyhoeddus di-fwg
Croesawodd ASH Cymru heddiw y cyhoeddiad bod Cymru i droi'n ddi-fwg ar 2 Ebrill 2007.
Dywedodd Tanya Buchanan, Cyfarwyddwraig ASH Cymru, "Rydyn ni wrth ein bodd bod y ddeddfwriaeth bwysig hon wedi cael ei chymeradwyo ac y bydd Cymru yn gweithredu'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus ar 2 Ebrill 2007.
Mae'r penderfyniad i gadw at y dyddiad gwreiddiol ac i beidio ag oedi tan fis Gorffennaf yn destun llawenydd mawr o ran gwella iechyd pobl Cymru. Dyma'r cam pwysicaf erioed i'r cyfeiriad hwnnw. Nid yn unig y bydd gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn diogelu iechyd pobl rhag peryglon mwg ail-law ond bydd hefyd yn rhoi hwb i ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi.
Mae 6,000 o bobl yn dal i farw bob blwyddyn yng Nghymru o ganlyniad i glefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu. Mae gweithredu'r gwaharddiad hwn yn gam aruthrol tuag at leihau'r ffigwr echrydus hwnnw. Ond ar yr un pryd, mae llawer o waith ar ôl i'w wneud er mwyn lleihau ymhellach nifer y marwolaethau, a'r rheini'n farwolaethau y gellid eu hatal yn hawdd."