Ash Wales

Tuag at Gymru Ddi-Dybaco

Skip to main content

Site navigation

Digwyddiadau i Ddod

Diwrnod Dim Tybaco 2010: Ffeithiau, nid ffuglen, am dybaco

Ffeithiau, nid ffuglen, am dybaco

Bydd ASH Cymru yn cynnal digwyddiad codi ymwybyddiaeth o wybodaeth i nodi Diwrnod Dim Tybaco.

Bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i westeion ddysgu mwy am rôl Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru. Bydd yn edrych ar y dystiolaeth ynglŷn â chaethiwed i nicotin, yn ogystal â’r materion allweddol ar gyfer y dyfodol, a bydd yn rhoi cyfle i’r bobl a fydd yn bresennol rwydweithio gydag aelodau o Gynghrair Rheoli Tybaco Cymru.

Mae’r gwahoddiad yn agored i wleidyddion a’u staff gwleidyddol, swyddogion polisi a phobl eraill sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am effeithiau niweidiol tybaco a’r agenda rheoli tybaco yng Nghymru.

Fforwm Rheoli Tybaco Cymru Gyfan

Fforwm Rheoli Tybaco Cymru Gyfan, Canolfan St John, Caerdydd - 23 Mehefin

Sioe Frenhinol Cymru, 19-22 Gorffennaf 2010.

Bydd ASH Cymru yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru gyda Dim Smygu Cymru. Byddwn yn defnyddio ein meddalwedd heneiddio wynebau i ddangos effeithiau niweidiol ysmygu ar y croen. Dewch i’n stondin ar Rodfa B ar faes y sioe.

Penwythnos Mawr Caerdydd

Bydd ASH Cymru yn mynychu Penwythnos Mawr Caerdydd, 30 Gorffennaf - 2 Awst 2010.

 

Dyfodol Di-fwg: Cynhadledd Rheoli Tybaco 2010

11-12 Hydref, Gwesty Mercure Holland House, Caerdydd.

 

Yn yr Adran Hon

A oeddech chi'n gwybod?

Bod mwy na 4000 o gemegau mewn mwg tybaco.

Llinell Gymorth i Ysmygwyr:
0800 169 0169
Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru:
0800 085 2219

Site information

© 2007 ASH Cymru | Dyluniwyd gan L Griffiths | Developed by Core

Map o'r Wefan |  Telerau |  Preifatrwydd |  Credits

Action on Smoking and Health (ASH) Wales, a registered charity (Charity Number:1120834) and Company Limited by Guarantee (6030302)