Cymuned ASH Cymru
Mae ASH Cymru yn dod ag elfen newydd i'r wefan hon a hoffem i chi fod yn rhan ohoni. Yr adran gymunedol yw'r lle i gael gwybod y newyddion diweddaraf, beth sydd ymlaen ac yn bwysicaf oll, i rannu eich storïau a dweud wrthym beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.
Rhaglen ASSIST
Dechreuodd rhaglen ASSIST trwy gynnal holiadur ymhlith myfyrwyr Blwyddyn 8. Gofynnwyd iddynt enwi myfyrwyr eraill yn yr un flwyddyn roedden nhw'n eu 'parchu', eu 'hedmygu' a'u hystyried yn 'arweinwyr da ym meysydd chwaraeon a gweithgareddau grŵp eraill'. Gwahoddwyd y 18% o'r myfyrwyr a enwyd amlaf (gan gadw'r gyfartaledd rhwng bechgyn a merched yn y flwyddyn honno) i ddod i gyfarfod recriwtio lle rhoddwyd cyfle iddynt hyfforddi fel 'cefnogwyr cyfoedion'. O dderbyn y byddai rhai yn gwrthod cymryd rhan ac eraill yn tynnu allan yn nes ymlaen, y nod oedd recriwtio 15 y cant o'r garfan am y flwyddyn ar gyfer lledaenu'r neges ynglŷn â hybu iechyd. (Kelly a Stevenson, 1992).