Ash Wales

Tuag at Gymru Ddi-Dybaco

Skip to main content

Site navigation

Ynglŷn ag ASH Cymru: Pwy Ydym Ni

ASH Cymru yw'r prif sefydliad gwirfoddol yng Nghymru sy'n ymgyrchu yn erbyn defnyddio tybaco. Ein prif nod yw sicrhau lleihad sylweddol mewn problemau iechyd a achosir gan dybaco, gan obeithio diddymu'r problemau hynny'n llwyr yn y pen draw.

Dyma Weledigaeth ASH Cymru:

"Tuag at Gymru Ddi-Dybaco"

O Le y Daethom Ni…

Sefydlwyd Action on Smoking and Health (ASH) yn Llundain yn 1971 gan Goleg Brenhinol y Meddygon mewn ymateb i'r ymwybyddiaeth newydd o sut mae ysmygu yn peryglu iechyd.

Sefydlwyd ASH Cymru (Gweithredu ar Ysmygu ac Iechyd) yn 1976 fel cangen o ASH UK. Am lawer blwyddyn bu ASH Cymru, dan nawdd ASH UK, yn ymwneud â gwaith lobïo ac annog yn ogystal â helpu miloedd o bobl i roi'r gorau i ysmygu. Cyfarwyddwr a staff gynorthwyol rhan-amser yn unig a gyflogwyd bryd hynny.

I Ble Rydyn ni'n Mynd…

Yn 2007, cafodd ASH Cymru ei ddiwygio'n llwyr, fel y gallai gwrdd ag anghenion pobl Cymru yn llawer gwell. Dyma rai o'r newidiadau:

  • Penodwyd Cyfarwyddwr llawn-amser i weinyddu'r sefydliad
  • Penodwyd Cadeirydd newydd
  • Daeth ASH Cymru yn sefydliad annibynnol a ymgorfforwyd yn elusen ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant
  • Peidiodd y sefydliad â darparu cefnogaeth uniongyrchol i unigolion a oedd yn chwilio am gymorth i roi'r gorau i ysmygu: trosglwyddwyd y cyfrifoldeb hwn i Dîm Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru
  • Cafodd gweithgareddau craidd y sefydliad eu diffinio o'r newydd

Mae ASH Cymru'n gyfrifol am ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys cydlynu Fforwm Reoli Tybaco Cymru: trwy'r Fforwm hon, cawn dynnu ynghyd yr holl waith amrywiol sy'n cael ei wneud yng Nghymru ym maes rheoli tybaco.

Dyma brif weithgareddau ASH yng Nghymru:

  • Cyflwyno'r ffeithiau ynglŷn â defnyddio tybaco yng Nghymru
  • Creu rhwydweithiau effeithiol o bobl sy'n gweithio ym maes rheoli tybaco
  • Cynnig anogaeth a chefnogaeth i unigolion a phrosiectau ym maes rheoli tybaco ac i'r sawl nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol ym mholisïau neu weithrediadau iechyd cyhoeddus
  • Lobïo am fesurau iechyd cyhoeddus er mwyn gwarchod pawb yng Nghymru rhag effeithiau niweidiol tybaco
  • Ymgymryd ag ymchwil a phrosiectau, gan gynnwys hyfforddi a phrosiectau hybu ymwybyddiaeth, ym meysydd rheoli tybaco

Annual Report

To download our annual report please download the pdf document below

Fforwm Reoli Tybaco Cymru

Mae ASH Cymru'n gweinyddu Fforwm Reoli Tybaco Cymru. Sefydlwyd y Fforwm i dynnu ynghyd bawb yng Nghymru sy'n gweithio'n broffesiynol ym maes rheoli tybaco. Mae'r Fforwm yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn i drafod materion sy'n ymwneud â thybaco a sut y maent yn effeithio ar iechyd pobl Cymru. Mae'n arddel swyddogaeth lobïo hefyd, yn ôl yr angen.

Ymlith aelodau Fforwm Reoli Tybaco Cymru y mae gweithwyr iechyd proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol, y sector gorfforaethol a diwydiant. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cyfrannu'n gyson i'w chyfarfodydd er mwyn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â deddfwriaeth berthnasol a materion eraill sy'n ymwneud â rheoli tybaco.

Yn yr Adran Hon

Llinell Gymorth i Ysmygwyr:
0800 169 0169
Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru:
0800 085 2219

A oeddech chi'n gwybod?

Bod mwy na 4000 o gemegau mewn mwg tybaco.

Site information

© 2007 ASH Cymru | Dyluniwyd gan L Griffiths | Developed by Core

Map o'r Wefan |  Telerau |  Preifatrwydd |  Credits

Action on Smoking and Health (ASH) Wales, a registered charity (Charity Number:1120834) and Company Limited by Guarantee (6030302)