Y Gwaharddiad ar Ysmygu:Yr hyn mae angen i chi ei wybod

Mae Deddf Iechyd 2006 yn datganoli pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau ar wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig yng Nghymru. Daw'r Ddeddf i rym ar 2 Ebrill 2007.
Cyn gynted ag y daw'r Ddeddf i rym, bydd ysmygu yn anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd os yw'r rhain yn gaeedig neu'n sylweddol gaeedig, gan gynnwys ystafelloedd a ddynodwyd gynt yn 'ystafelloedd ysmygu'. Bydd y ddeddf newydd yn effeithio ar y rhan fwyaf o fangreoedd cyhoeddus, gan gynnwys gweithleoedd a cherbydau gwaith, a bydd yn berthnasol i staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr. Bydd methu â chydymffurfio â'r Ddeddf yn drosedd.
- Beth sydd wrth wraidd y gwaharddiad?
- Beth fydd y gwaharddiad yn ei olygu i chi?
- Cefnogi'r Gwaharddiad
- A fydd y gwaharddiad yn effeithio ar eich busnes?
- Canllawiau ac Arwyddion
- Mangreoedd Di-fwg – Rheoliadau 2007
Ewch i'r ddolen isod er mwyn cael defnyddiau ymarferol, yn cynnwys canllawiau, posteri a dogfennau polisi.
- Smokefree Workplace Toolkit
Cewch wybodaeth am sut y bydd y gwaharddiad a'r cosbau yn cael eu gweithredu gan Gyngor Dinas Caerdydd trwy fynd at y wefan isod.